RNIB - See differently

Helpwch ni i roi terfyn ar golled golwg y mae posib ei osgoi yng Nghymru

Mae mwy nag 80,000 o bobl yng Nghymru mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen wrth aros am driniaeth. 

Mae hynny'n ddigon i lenwi Stadiwm Principality i'r ymylon.

I weld y dudalen yma yn Saesneg, cliciwch yma.

Mae posib osgoi hanner yr holl golled golwg drwy ei ganfod yn gynnar a’i drin, ond mae gwasanaethau gofal llygaid Cymru dan bwysau aruthrol. Offthalmoleg yw'r adran cleifion allanol brysuraf yn GIG Cymru, gan gyfrif am un o bob saith claf ar y rhestr aros. Mae nifer y cleifion risg uchel sy'n aros yn rhy hir am driniaeth wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Gyda disgwyl i'r galw am driniaethau gofal llygaid sy'n achub golwg gynyddu cymaint â 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf, nawr yw'r amser i weithredu.

Rydym wedi paratoi llythyr i chi ei anfon at eich Aelod o'r Senedd (AS) i ofyn iddynt wneud rhoi terfyn ar golled golwg y mae posib ei osgoi yn flaenoriaeth.

Cam 1: Eich Manylion

Mae pob maes sydd wedi’i farcio â seren * yn orfodol.

Os oes arnoch chi angen help i lenwi'r ffurflen yma, ffoniwch ein Llinell Gymorth ni ar 0303 123 9999. Mae’r RNIB wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac rydyn ni eisiau eich sicrhau chi bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel gyda ni ac na fyddwn ni byth yn gwerthu eich manylion i drydydd partïon. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ni ar ein gwefan: www.rnib.org.uk/privacy-policy/