RNIB - See differently

A yw eich Aelod o’r Senedd chi’n barod i helpu gyda hygyrchedd bysiau?

Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau ar bob cam o siwrnai ar fws. Mae Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi trefn ar hyn. Gofynnwch i’ch Aelod o’r Senedd wneud gwasanaethau bysiau’n wirioneddol hygyrch.

I weld y dudalen yma yn Saesneg, cliciwch yma.

Dim ond un o bob 10 o bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru sy’n gallu gwneud yr holl siwrneiau bws maen nhw eisiau neu angen eu gwneud ar fws.

Mae adroddiad bysiau RNIB Cymru, ‘Pawb ar y Bws?’, yn dangos sut mae teithio ar fws yn achubiaeth i lawer o bobl ddall ac â golwg rhannol. Ond mae seilwaith gwael, gwybodaeth anhygyrch, a chefnogaeth anghyson yn gwneud siwrneiau’n anodd neu’n amhosibl. Rydyn ni’n galw am ailgynllunio'r siwrnai ar fws yn gyfan gwbl, o'r dechrau i'r diwedd, gyda hygyrchedd mewn golwg. Rydyn ni eisiau gweld adnoddau cynllunio siwrneiau hygyrch, seilwaith bysiau sydd wedi'i gynllunio'n gynhwysol, hyfforddiant gwell i yrwyr a nodweddion hygyrchedd dibynadwy ar fysiau.

Cam 1: Eich Manylion

Rydyn ni wedi paratoi llythyr i chi ei anfon at eich Aelod o'r Senedd (AS) i gefnogi gwelliannau i'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a fydd yn adeiladu rhwydwaith bysiau sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.

Mae pob maes sydd wedi’i farcio â seren * yn orfodol.

Os oes arnoch chi angen help i lenwi'r ffurflen yma, ffoniwch ein Llinell Gymorth ni ar 0303 123 9999. Mae’r RNIB wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac rydyn ni eisiau eich sicrhau chi bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel gyda ni ac na fyddwn ni byth yn gwerthu eich manylion i drydydd partïon. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ni ar ein gwefan: www.rnib.org.uk/privacy-policy/