RNIB - See differently

Gofynnwch i'ch Cynghorydd am strydoedd hygyrch

Bernie and Abby are forced to walk on either side of a big cargo bike which has been parked on the pavement.

Bob dydd, mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau a allai fod yn beryglus wrth gerdded o amgylch eu hardaloedd lleol, fel ceir wedi'u parcio ar balmentydd a diffyg croesfannau hygyrch. Gall cynghorau gymryd camau i wneud amgylchedd y strydoedd yn gynhwysol.

"Mae gwneud unrhyw siwrnai heddiw yn rhywbeth rydw i'n ei wneud oherwydd bod rhaid i mi, nid oherwydd fy mod i eisiau. Dydw i ddim yn gwneud siwrneiau er mwyn pleser mwyach."

Mae adroddiad newydd yr RNIB, In My Way, yn datgelu pa mor eang a difrifol yw'r problemau hyn. Yn syfrdanol, mae 92 y cant o bobl ddall ac â golwg rhannol wedi gorfod cerdded i'r ffordd i osgoi rhwystrau, a dim ond 9 y cant sy'n cytuno'n gryf eu bod yn teimlo'n ddiogel wrth gerdded yn annibynnol yn eu cymdogaeth.

I weld y dudalen yma yn Saesneg, cliciwch yma.

Ysgrifennu at eich Cynghorydd

Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu yn Lloegr, rydyn ni wedi paratoi llythyr i chi ei anfon, yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu. Mae ein llythyr ni’n egluro beth all cynghorau ei wneud i ddatrys y problemau ym mhle rydych chi'n byw.

Eich profiad

Os hoffech chi ddweud wrth eich Cynghorydd am y rhwystrau rydych chi'n eu hwynebu wrth gerdded yn eich ardal leol, boed yn balmant wedi'i rwystro gan geir wedi'u parcio, croesfan beryglus neu lwybr rydych chi'n ei osgoi'n gyfan gwbl, nodwch eich profiad yma a bydd yn cael ei ychwanegu at yr e-bost templed ar y dudalen nesaf.

Os oes arnoch chi angen help i lenwi'r ffurflen yma, ffoniwch ein Llinell Gymorth ni ar 0303 123 9999. Mae’r RNIB wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac rydyn ni eisiau eich sicrhau chi bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel gyda ni ac na fyddwn ni byth yn gwerthu eich manylion i drydydd partïon. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ni ar ein gwefan: www.rnib.org.uk/privacy-policy/